RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU
Aelodaeth
5Telerau aelodaeth anweithredol
(1)
Mae aelod anweithredol o ACC yn dal swydd fel aelod am unrhyw gyfnod ac ar unrhyw delerau a bennir yn nhelerau penodiad yr aelod (ond yn ddarostyngedig i is-adran (4) ac adran 7).
(2)
Ni chaiff y cyfnod yn y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 5 mlynedd.
(3)
Mae aelod anweithredol o ACC a benodir yn is-gadeirydd yn dal swydd fel is-gadeirydd am unrhyw gyfnod ac ar unrhyw delerau a bennir yn nhelerau penodiad y person yn is-gadeirydd (ond yn ddarostyngedig i is-adran (4) ac adran 7).
(4)
Caiff person ymddiswyddo fel aelod anweithredol o ACC, neu fel is-gadeirydd ACC, drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru.
(5)
Caniateir ailbenodi person sy’n aelod anweithredol o ACC neu sydd wedi bod yn aelod anweithredol o ACC yn aelod anweithredol unwaith yn unig.
(6)
Caniateir ailbenodi person sy’n is-gadeirydd ACC neu sydd wedi bod yn is-gadeirydd ACC yn is-gadeirydd.
(7)
Caiff ACC dalu i’w aelodau anweithredol—
(a)
unrhyw dâl a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, a
(b)
unrhyw symiau a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, i ad-dalu’r treuliau yr aethant iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau.