Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

5Telerau aelodaeth anweithredolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae aelod anweithredol o ACC yn dal swydd fel aelod am unrhyw gyfnod ac ar unrhyw delerau a bennir yn nhelerau penodiad yr aelod (ond yn ddarostyngedig i is-adran (4) ac adran 7).

(2)Ni chaiff y cyfnod yn y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 5 mlynedd.

(3)Mae aelod anweithredol o ACC a benodir yn is-gadeirydd yn dal swydd fel is-gadeirydd am unrhyw gyfnod ac ar unrhyw delerau a bennir yn nhelerau penodiad y person yn is-gadeirydd (ond yn ddarostyngedig i is-adran (4) ac adran 7).

(4)Caiff person ymddiswyddo fel aelod anweithredol o ACC, neu fel is-gadeirydd ACC, drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru.

(5)Caniateir ailbenodi person sy’n aelod anweithredol o ACC neu sydd wedi bod yn aelod anweithredol o ACC yn aelod anweithredol unwaith yn unig.

(6)Caniateir ailbenodi person sy’n is-gadeirydd ACC neu sydd wedi bod yn is-gadeirydd ACC yn is-gadeirydd.

(7)Caiff ACC dalu i’w aelodau anweithredol—

(a)unrhyw dâl a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, a

(b)unrhyw symiau a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, i ad-dalu’r treuliau yr aethant iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 5 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2