Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

48Effaith atgyfeirio ar ymholiadLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Tra bo achos ynghylch atgyfeiriad o dan adran 46 yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ymholiad—

(a)ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mewn perthynas â’r ymholiad (gweler adran 50), a

(b)ni chaniateir gwneud cais am gyfarwyddyd i ddyroddi hysbysiad cau (gweler adran 51).

(2)Mae achos ynghylch atgyfeiriad yn mynd rhagddo—

(a)pan fo atgyfeiriad wedi ei wneud a heb ei dynnu’n ôl, a

(b)pan na fo dyfarniad terfynol wedi ei wneud ynghylch y cwestiwn a atgyfeiriwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 48 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3