RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 4YMHOLIADAU ACC
Diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad
45Diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad er mwyn osgoi colli treth
(1)
Os yw ACC yn dod i’r casgliad, yn ystod y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo—
(a)
bod y swm a nodir ar y ffurflen dreth fel swm y dreth ddatganoledig F1sydd i’w godi yn annigonol, a
(b)
ei bod yn debygol, oni bai y diwygir y ffurflen ar unwaith, y bydd treth ddatganoledig yn cael ei cholli,
caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth er mwyn gwneud iawn am yr annigonolrwydd drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd.
F2(1A)
Os yw ACC, yn ystod y cyfnod pan fo ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo, yn dod i’r casgliad—
(a)
bod swm y credyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth yn ormodol, a
(b)
ei bod yn debygol, oni chaiff y ffurflen dreth ei diwygio ar unwaith, y collir treth ddatganoledig,
caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd fel nad yw’r swm a hawlir yn ormodol mwyach.
(2)
Os yw’r ymholiad yn un sydd wedi ei gyfyngu gan adran 44(2) i faterion sy’n deillio o ddiwygiad i’r ffurflen dreth,
F3(a)
nid yw is-adran (1) yn gymwys ond i’r graddau y gellir priodoli’r annigonolrwydd i’r diwygiad F4, a
(b)
nid yw is-adran (1A) yn gymwys ond i’r graddau y mae’r swm gormodol i’w briodoli i’r diwygiad.
(3)
Os dyroddir hysbysiad o dan F5neu (1A), ni chaiff y person a ddychwelodd y ffurflen dreth ei diwygio mwyach o dan 41.
(4)
Rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu unrhyw swm, neu swm ychwanegol, o dreth ddatganoledig sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y diwygiad.
(5)
At ddibenion yr adran hon ac F6adrannau 45A a 46 y cyfnod y mae ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo yw’r cyfnod cyfan—
(a)
sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad ymholiad ynghylch y ffurflen dreth, a
(b)
sy’n dod i ben â’r diwrnod y cwblheir yr ymholiad (gweler adran 50).