RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 4YMHOLIADAU ACC
Hysbysiad a chwmpas ymholiad
43Hysbysiad ymholiad
(1)
Caiff ACC wneud ymholiad ynghylch ffurflen dreth os yw’n dyroddi hysbysiad am y bwriad i wneud hynny (“hysbysiad ymholiad”) i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth cyn diwedd y cyfnod F1ymholiad (ond gweler is-adran (1B)).
F2(1A)
Y cyfnod ymholiad ar gyfer ffurflen dreth yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.
(1B)
Ond caiff ACC wneud ymholiad ynghylch ffurflen dreth ar ôl i’r cyfnod ymholiad ddod i ben—
(a)
os dychwelir y ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiad tir,
(b)
ar ôl dychwelyd y ffurflen dreth, os dychwelir ffurflen dreth bellach mewn cysylltiad â’r un trafodiad tir,
(c)
os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth bellach, a
(d)
os yw ACC yn credu bod angen gwneud ymholiad i’r ffurflen dreth a grybwyllir ym mharagraff (a).
(2)
F3At ddibenion is-adran (1A), y dyddiad perthnasol yw—
(a)
os dychwelwyd y ffurflen dreth ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth, neu
(b)
fel arall, y dyddiad ffeilio,
ond os diwygir y ffurflen dreth o dan adran 41, y dyddiad perthnasol yw’r diwrnod y gwnaed y diwygiad.
(3)
Ni chaiff ffurflen dreth a fu’n destun un hysbysiad o dan yr adran hon fod yn destun un arall, ac eithrio hysbysiad a ddyroddir—
F4(a)
o ganlyniad i ddiwygio’r ffurflen dreth o dan adran 41, neu
(b)
yn rhinwedd is-adran (1B)
F5(4)
Yn is-adran (1B), ystyr “ffurflen dreth bellach” yw ffurflen dreth bellach a ddychwelir o dan DTTT.