RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 3FFURFLENNI TRETH
Diwygio a chywiro ffurflenni treth
42ACC yn cywiro ffurflen dreth
(1)
Caiff ACC gywiro unrhyw wall neu hepgoriad amlwg mewn ffurflen dreth.
(2)
O ran cywiriad o dan yr adran hon—
(a)
caiff ei wneud drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth, a
(b)
ystyrir ei fod yn rhoi effaith i ddiwygiad i’r ffurflen dreth.
(3)
Mae’r cyfeiriad at wall yn is-adran (1) yn cynnwys, er enghraifft, gamgymeriad rhifyddol neu wall o ran egwyddor.
(4)
Rhaid gwneud cywiriad o dan yr adran hon cyn diwedd y cyfnod o 9 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dychwelwyd y ffurflen dreth.
F1(4A)
Os yw swm neu swm ychwanegol o dreth ddatganoledig yn daladwy o ganlyniad i gywiriad a wneir o dan yr adran hon, rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu’r swm, neu’r swm ychwanegol, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cywiriad.
(5)
Nid oes unrhyw effaith i gywiriad o dan yr adran hon os yw’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth yn ei wrthod—
(a)
yn ystod y cyfnod diwygio, drwy ddiwygio’r ffurflen dreth F2o dan adran 41 er mwyn gwrthod y cywiriad, neu
(b)
ar ôl y cyfnod hwnnw, drwy roi hysbysiad sy’n gwrthod y cywiriad.
(6)
Rhaid rhoi hysbysiad o dan is-adran (5)(b) i ACC cyn diwedd y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cywiro.