42ACC yn cywiro ffurflen drethLL+C
(1)Caiff ACC gywiro unrhyw wall neu hepgoriad amlwg mewn ffurflen dreth.
(2)O ran cywiriad o dan yr adran hon—
(a)caiff ei wneud drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth, a
(b)ystyrir ei fod yn rhoi effaith i ddiwygiad i’r ffurflen dreth.
(3)Mae’r cyfeiriad at wall yn is-adran (1) yn cynnwys, er enghraifft, gamgymeriad rhifyddol neu wall o ran egwyddor.
(4)Rhaid gwneud cywiriad o dan yr adran hon cyn diwedd y cyfnod o 9 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dychwelwyd y ffurflen dreth.
[F1(4A)Os yw swm neu swm ychwanegol o dreth ddatganoledig yn daladwy o ganlyniad i gywiriad a wneir o dan yr adran hon, rhaid i’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth dalu’r swm, neu’r swm ychwanegol, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cywiriad.]
(5)Nid oes unrhyw effaith i gywiriad o dan yr adran hon os yw’r person a ddychwelodd y ffurflen dreth yn ei wrthod—
(a)yn ystod y cyfnod diwygio, drwy ddiwygio’r ffurflen dreth [F2o dan adran 41] er mwyn gwrthod y cywiriad, neu
(b)ar ôl y cyfnod hwnnw, drwy roi hysbysiad sy’n gwrthod y cywiriad.
(6)Rhaid rhoi hysbysiad o dan is-adran (5)(b) i ACC cyn diwedd y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cywiro.
Diwygiadau Testunol
F1A. 42(4A) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 11(a); O.S. 2018/34, ergl. 3
F2Geiriau yn a. 42(5)(a) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 11(b); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 42 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3