RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 3FFURFLENNI TRETH
Diwygio a chywiro ffurflenni treth
41Trethdalwr yn diwygio ffurflen dreth
(1)
Caiff person sydd wedi dychwelyd ffurflen dreth ei diwygio drwy roi hysbysiad i ACC.
(2)
Rhaid gwneud diwygiad o dan yr adran hon cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol (y cyfeirir ato yn adran 42 fel y “cyfnod diwygio”).
F1(3)
Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad ffeilio.
(3A)
Ond os yw Gweinidogion Cymru yn rhagnodi dyddiad arall mewn rheoliadau o dan yr is-adran hon, y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad hwnnw.
(4)
Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adrannau 45(3) a 50.