RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU
Aelodaeth
4Anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol
Mae person wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi yn aelod anweithredol o ACC os yw’r person—
(a)
yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
(b)
yn aelod o Dŷ’r Cyffredin, o Dŷ’r Arglwyddi, o Senedd yr Alban neu o Gynulliad Gogledd Iwerddon,
(c)
yn aelod o Senedd Ewrop,
(d)
yn aelod o awdurdod lleol,
(e)
yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol,
(f)
yn aelod o Lywodraeth Cymru,
(g)
yn un o Weinidogion y Goron, yn aelod o Lywodraeth yr Alban neu’n un o Weinidogion Gogledd Iwerddon,
(h)
yn gomisiynydd heddlu a throseddu,
(i)
yn berson sy’n dal swydd o dan y Goron,
(j)
yn berson sydd wedi ei gyflogi gan wasanaeth sifil y Wladwriaeth, neu
(k)
yn deiliad swydd, neu’n aelod neu’n aelod o staff corff, a ragnodwyd drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.