Mae person wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi yn aelod anweithredol o ACC os yw’r person—
(a)yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
(b)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin, o Dŷ’r Arglwyddi, o Senedd yr Alban neu o Gynulliad Gogledd Iwerddon,
(c)yn aelod o Senedd Ewrop,
(d)yn aelod o awdurdod lleol,
(e)yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol,
(f)yn aelod o Lywodraeth Cymru,
(g)yn un o Weinidogion y Goron, yn aelod o Lywodraeth yr Alban neu’n un o Weinidogion Gogledd Iwerddon,
(h)yn gomisiynydd heddlu a throseddu,
(i)yn berson sy’n dal swydd o dan y Goron,
(j)yn berson sydd wedi ei gyflogi gan wasanaeth sifil y Wladwriaeth, neu
(k)yn deiliad swydd, neu’n aelod neu’n aelod o staff corff, a ragnodwyd drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 4 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2