RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 2DYLETSWYDDAU TRETHDALWR I GADW COFNODION A’U STORIO’N DDIOGEL
39Storio gwybodaeth etc. yn ddiogel
Caiff y ddyletswydd o dan adran 38 i storio cofnodion yn ddiogel ei chyflawni—
(a)
drwy eu storio’n ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, neu
(b)
drwy storio’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ynddynt yn ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.