RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 2DYLETSWYDDAU ... I GADW COFNODION A’U STORIO’N DDIOGEL

39Storio gwybodaeth etc. yn ddiogel

F1(1)

Caiff y ddyletswydd o dan adran 38 F2neu 38A i storio cofnodion yn ddiogel ei chyflawni—

(a)

drwy eu storio’n ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, neu

(b)

drwy storio’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ynddynt yn ddiogel ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw fodd, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu eithriadau a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

F3(2)

Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a bennir o dan adran 21(7) (cofnod disgownt dŵr) neu 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi) o DTGT.