RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 2DYLETSWYDDAU ... I GADW COFNODION A’U STORIO’N DDIOGEL
F138ADyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: trafodiadau tir nad oes angen dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â hwy
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir, ac eithrio trafodiad o fath a restrir yn adran 65(4) o DTTT, nad yw’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad ag ef.
(2)
Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir y mae’r adran hon yn gymwys iddo—
(a)
cadw unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen i alluogi’r prynwr i ddangos nad yw’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth, a
(b)
storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.
(3)
Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd y dyddiad perthnasol.
(4)
Y “dyddiad perthnasol” yw chwe mlynedd i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.
(5)
Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.
(6)
Caniateir pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol o dan is-adran (5).
(7)
Yn is-adran (4), mae i’r “dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith” yr un ystyr ag yn DTTT.