Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

38[F1Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: achosion pan fo’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth]LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth—

(a)cadw unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen er mwyn galluogi’r person i [F2ddangos bod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn,]

[F3(b)storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.]

(2)Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd yr hwyraf o’r [F4dyddiad] perthnasol—

(a)a’r [F4dyddiad] y cwblheir ymholiad i’r ffurflen dreth (gweler adran 50), neu

(b)os nad oes ymholiad, a’r [F4dyddiad] pan [F5fydd cyfnod yr ymholiad yn dod i ben (gweler adran 43(1A)).]

[F6(3)Ystyr y “dyddiad perthnasol” yw 6 mlynedd i ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)y dyddiad ffeilio, a

(b)os dychwelwyd y ffurflen dreth a’i diwygio wedi hynny o dan adran 41, y dyddiad y rhoddir hysbysiad o’r diwygiad o dan yr adran honno.

(3A)Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, ystyr y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.]

(4)Caniateir pennu [F7dyddiadau] gwahanol at ddibenion gwahanol o dan is-adran [F8(3A)] .

[F9(5)Yn y Bennod hon, mae “cofnodion” yn cynnwys dogfennau ategol (er enghraifft, cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau).]

F10(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F11(7). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F12(8). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 38 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3