RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 2DYLETSWYDDAU ... I GADW COFNODION A’U STORIO’N DDIOGEL

38F1Dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel: achosion pan fo’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth

(1)

Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth—

(a)

cadw unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen er mwyn galluogi’r person i F2ddangos bod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn,

F3(b)

storio unrhyw gofnodion y gall fod eu hangen at y diben hwnnw yn ddiogel.

(2)

Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd yr hwyraf o’r F4dyddiad perthnasol—

(a)

a’r F4dyddiad y cwblheir ymholiad i’r ffurflen dreth (gweler adran 50), neu

(b)

os nad oes ymholiad, a’r F4dyddiad pan F5fydd cyfnod yr ymholiad yn dod i ben (gweler adran 43(1A)).

F6(3)

Ystyr y “dyddiad perthnasol” yw 6 mlynedd i ba un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf—

(a)

y dyddiad ffeilio, a

(b)

os dychwelwyd y ffurflen dreth a’i diwygio wedi hynny o dan adran 41, y dyddiad y rhoddir hysbysiad o’r diwygiad o dan yr adran honno.

(3A)

Ond os yw ACC yn pennu dyddiad cynharach o dan yr is-adran hon, ystyr y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad a bennir.

(4)

Caniateir pennu F7dyddiadau gwahanol at ddibenion gwahanol o dan is-adran F8(3A) .

F9(5)

Yn y Bennod hon, mae “cofnodion” yn cynnwys dogfennau ategol (er enghraifft, cyfrifon, llyfrau, gweithredoedd, contractau, talebau a derbynebau).

F10(6)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F11(7)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F12(8)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .