RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU

PENNOD 1TROSOLWG

37Trosolwg o’r Rhan

Mae’r Rhan hon yn ymwneud ag asesu trethi F1a gesglir gan ACC ac mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)

cadw cofnodion;

(b)

ffurflenni treth;

(c)

ymholiadau gan ACC i ffurflenni treth;

(d)

dyfarniadau gan ACC ynghylch y dreth F1a gesglir gan ACC sy’n ddyledus os na ddychwelir ffurflen dreth;

(e)

asesiadau ACC o’r dreth F1a gesglir gan ACC sy’n ddyledus F2ac o symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth;

(f)

hawliadau am F3ryddhad rhag asesiad dwbl ac ar gyfer ad-dalu treth F1a gesglir gan ACC;

(g)

gwneud hawliadau.