RHAN 3FFURFLENNI TRETH, YMHOLIADAU AC ASESIADAU
PENNOD 1TROSOLWG
37Trosolwg o’r Rhan
Mae’r Rhan hon yn ymwneud ag asesu trethi datganoledig ac mae’n cynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)
cadw cofnodion;
(b)
ffurflenni treth;
(c)
ymholiadau gan ACC i ffurflenni treth;
(d)
dyfarniadau gan ACC ynghylch y dreth ddatganoledig sy’n ddyledus os na ddychwelir ffurflen dreth;
(e)
asesiadau ACC o’r dreth ddatganoledig sy’n ddyledus F1ac o symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth;
(f)
hawliadau am F2ryddhad rhag asesiad dwbl ac ar gyfer ad-dalu treth ddatganoledig;
(g)
gwneud hawliadau.