RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU
Diwygiadau canlyniadol
36Archwilydd Cyffredinol Cymru
Yn adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3) (darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)
ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad o dan adran 31 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 mewn cysylltiad â Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru;”.