RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Cynlluniau corfforaethol, adroddiadau blynyddol, cyfrifon etc.

33Swyddog cyfrifo

(1)

Prif weithredwr ACC yw swyddog cyfrifo ACC.

(2)

Mae gan y swyddog cyfrifo, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid ACC, y cyfrifoldebau a bennir am y tro gan Weinidogion Cymru.

(3)

Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan yr adran hon yn cynnwys (ymysg pethau eraill)—

(a)

cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon ACC a’r Datganiad Treth;

(b)

cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid ACC;

(c)

cyfrifoldebau am ddefnyddio adnoddau ACC yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol;

(d)

cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i Weinidogion Cymru neu i un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.