RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Cynlluniau corfforaethol, adroddiadau blynyddol, cyfrifon etc.

32Archwilio’r defnydd o adnoddau

(1)

Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau o’r graddau y defnyddiwyd adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol wrth gyflawni swyddogaethau ACC.

(2)

Ond nid yw hynny yn rhoi’r hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu rhinweddau amcanion polisi ACC.

(3)

Cyn cynnal archwiliad rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)

ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)

ystyried barn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.

(4)

Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, cyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau archwiliad a gynhaliwyd o dan yr adran hon, a

(b)

gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.