Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

32Archwilio’r defnydd o adnoddauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau o’r graddau y defnyddiwyd adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol wrth gyflawni swyddogaethau ACC.

(2)Ond nid yw hynny yn rhoi’r hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu rhinweddau amcanion polisi ACC.

(3)Cyn cynnal archwiliad rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ystyried barn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, cyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau archwiliad a gynhaliwyd o dan yr adran hon, a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 32 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3