RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Cynlluniau corfforaethol, adroddiadau blynyddol, cyfrifon etc.

31Archwilio

(1)

Rhaid i ACC gyflwyno—

(a)

y cyfrifon a baratowyd ar gyfer blwyddyn ariannol, a

(b)

y Datganiad Treth ar gyfer blwyddyn ariannol,

i Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ddim hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

(2)

Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)

archwilio, ardystio ac adrodd ar y cyfrifon a’r Datganiad Treth, a

(b)

yn ddim hwyrach na diwedd y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y’u cyflwynir, gosod copi o’r cyfrifon a’r Datganiad Treth ardystiedig, a’r adroddiadau arnynt, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)

Wrth archwilio’r cyfrifon a gyflwynir o dan yr adran hon, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru fod wedi ei fodloni yn benodol—

(a)

yr aed i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sy’n ei lywodraethu, a

(b)

nad yw arian a dderbyniwyd at ddiben penodol neu at ddibenion penodol wedi ei wario ar unrhyw beth heblaw’r diben hwnnw neu’r dibenion hynny.

(4)

Wrth archwilio’r Datganiad Treth a gyflwynir o dan yr adran hon, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru fod wedi ei fodloni yn benodol—

(a)

bod yr arian a gasglwyd gan ACC, y mae’r Datganiad Treth yn ymwneud ag ef, wedi ei gasglu’n gyfreithlon, a

(b)

bod unrhyw alldaliadau a ddidynnwyd wedi eu didynnu yn unol ag adran 25(2).