Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

30Datganiad TrethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i ACC baratoi mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, ddatganiad o swm yr arian a gasglwyd ganddo yn ystod y flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (“Datganiad Treth”).

(2)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 30 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3