RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU
Cynlluniau corfforaethol, adroddiadau blynyddol, cyfrifon etc.
30Datganiad Treth
(1)
Rhaid i ACC baratoi mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, ddatganiad o swm yr arian a gasglwyd ganddo yn ystod y flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (“Datganiad Treth”).
(2)
Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.