RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Aelodaeth

3Aelodaeth

(1)

Aelodau ACC yw—

(a)

cadeirydd a benodir gan Weinidogion Cymru,

(b)

dim llai na 4, na dim mwy nag 8, o bersonau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru,

(c)

y prif weithredwr (gweler adran 9),

(d)

naill ai 1 neu 2 aelod arall o staff ACC a benodir gan y prif weithredwr, ac

(e)

1 aelod arall o staff ACC a benodir o dan adran 6.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru benodi un o’r aelodau a benodir o dan is-adran (1)(b) yn is-gadeirydd.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau er mwyn rhoi nifer gwahanol yn lle unrhyw un neu ragor o’r niferoedd a bennir ynddi am y tro; ond rhaid i’r rheoliadau sicrhau bod nifer yr aelodau anweithredol yn parhau i fod yn uwch na nifer yr aelodau gweithredol.

(4)

Yn y Rhan hon—

(a)

cyfeirir ar y cyd at gadeirydd ac at aelodau o ACC a benodir o dan is-adran (1)(b) fel “aelodau anweithredol”;

(b)

cyfeirir ar y cyd at y prif weithredwr ac at aelodau o ACC a benodir o dan is-adran (1)(d) neu o dan adran 6 fel “aelodau gweithredol”;

(c)

cyfeirir at yr aelod o ACC a benodir o dan adran 6 fel “aelod gweithredol etholedig”.