RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Cynlluniau corfforaethol, adroddiadau blynyddol, cyfrifon etc.

29Cyfrifon

(1)

Rhaid i ACC

(a)

cadw cofnodion cyfrifo priodol, a

(b)

paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)

Caiff y cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru gynnwys (ymysg pethau eraill) gyfarwyddydau o ran—

(a)

yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i’w cyflwyno;

(b)

y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i’w paratoi yn unol â hwy;

(c)

gwybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r cyfrifon.

(3)

Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.