xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CAWDURDOD CYLLID CYMRU

Cynlluniau corfforaethol, adroddiadau blynyddol, cyfrifon etc.LL+C

29CyfrifonLL+C

(1)Rhaid i ACC

(a)cadw cofnodion cyfrifo priodol, a

(b)paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff y cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru gynnwys (ymysg pethau eraill) gyfarwyddydau o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i’w cyflwyno;

(b)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i’w paratoi yn unol â hwy;

(c)gwybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r cyfrifon.

(3)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 29 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2