RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Cynlluniau corfforaethol, adroddiadau blynyddol, cyfrifon etc.

28Adroddiad blynyddol

(1)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i ACC

(a)

paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y modd yr arferwyd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno,

(b)

anfon copi o’r adroddiad at Weinidogion Cymru, ac

(c)

gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)

Rhaid i’r adroddiad gynnwys (yn benodol) asesiad o’r graddau y mae ACC, yn ystod y flwyddyn ariannol, wedi amlygu’r safonau gwasanaeth, y safonau ymddygiad a’r gwerthoedd y mae’r Siarter yn datgan y disgwylir iddo gadw atynt.

(3)

Caiff ACC gyhoeddi unrhyw adroddiadau eraill ac unrhyw wybodaeth arall am faterion sy’n berthnasol i’w swyddogaethau ag y bo’n briodol yn ei farn.