RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU
Cynlluniau corfforaethol, adroddiadau blynyddol, cyfrifon etc.
27Cynllun corfforaethol
(1)
Rhaid i ACC, ar gyfer pob cyfnod cynllunio, baratoi cynllun corfforaethol a’i gyflwyno i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
(2)
Rhaid i’r cynllun corfforaethol nodi—
(a)
prif amcanion ACC ar gyfer y cyfnod cynllunio,
(b)
y canlyniadau y gellir mesur i ba raddau y cyflawnwyd y prif amcanion drwy gyfeirio atynt, ac
(c)
y gweithgareddau y mae ACC yn disgwyl ymgymryd â hwy yn ystod y cyfnod cynllunio.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun corfforaethol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau a gytunir rhyngddynt hwy ac ACC.
(4)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo’r cynllun corfforaethol, rhaid i ACC—
(a)
cyhoeddi’r cynllun, a
(b)
gosod copi o’r cynllun gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5)
Caiff ACC, yn ystod y cyfnod cynllunio y mae cynllun corfforaethol yn ymwneud ag ef, adolygu’r cynllun a chyflwyno cynllun corfforaethol diwygiedig i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
(6)
Mae is-adrannau (2) i (4) yn gymwys i gynllun corfforaethol diwygiedig fel y maent yn gymwys i gynllun corfforaethol.
(7)
Ystyr “cyfnod cynllunio” yw—
(a)
cyfnod cyntaf a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a
(b)
pob cyfnod dilynol o 3 blynedd.
(8)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi unrhyw gyfnod arall sy’n briodol yn eu barn hwy yn lle’r cyfnod a bennir am y tro yn is-adran (7)(b).
(9)
Rhaid cyflwyno’r cynllun corfforaethol ar gyfer y cyfnod cynllunio cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo yn ddim hwyrach na 6 mis ar ôl sefydlu ACC; a rhaid cyflwyno’r cynllun corfforaethol ar gyfer pob cyfnod cynllunio dilynol cyn dechrau’r cyfnod cynllunio.