Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

21Achosion llysLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff ACC gychwyn achosion troseddol ac achosion sifil yng Nghymru a Lloegr.

(2)Mae gan unigolyn sydd wedi ei awdurdodi i gynnal achosion troseddol neu achosion sifil mewn llysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr—

(a)gan ACC, neu

(b)gan berson y mae ACC wedi dirprwyo iddo’r swyddogaeth o awdurdodi cynnal achosion o’r fath,

hawl i wneud hynny er nad yw’n berson a awdurdodir at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p. 29).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 21(1) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2