RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Gwybodaeth

I1I220Y drosedd o ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr ar gam

1

Mae unigolyn sy’n datgelu gwybodaeth yn groes i adran 17(1) yn cyflawni trosedd.

2

Mae’n amddiffyniad i unigolyn a gyhuddir o drosedd o dan is-adran (1) brofi bod yr unigolyn yn credu’n rhesymol—

a

bod adran 18 yn caniatáu datgelu’r wybodaeth, neu

b

bod yr wybodaeth eisoes wedi ei darparu yn gyfreithlon i’r cyhoedd.

3

Mae unigolyn sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored—

a

ar gollfarn ddiannod, i garchar am gyfnod nad yw’n F1wy na’r terfyn cyffredinol yn y llys ynadon (yng Nghymru a Lloegr) neu i ddirwy (neu’r ddau);

b

ar gollfarn ar dditiad, i garchar am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd neu i ddirwy (neu’r ddau).

4

Nid yw’r adran hon yn effeithio ar y gallu i fynd ar drywydd unrhyw rwymedi na chymryd unrhyw gamau mewn perthynas â thorri adran 17(1).