RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU
Sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, a’i statws
2Awdurdod Cyllid Cymru
(1)
Bydd corff corfforaethol a adwaenir fel Awdurdod Cyllid Cymru neu the Welsh Revenue Authority.
(2)
Yn y Ddeddf hon, cyfeirir at Awdurdod Cyllid Cymru fel “ACC”.
(3)
Cyflawnir swyddogaethau ACC ar ran y Goron ac felly mae eiddo, hawliau a rhwymedigaethau ACC yn eiddo, yn hawliau ac yn rhwymedigaethau i’r Goron.