RHAN 10DARPARIAETHAU TERFYNOL

194Dod i rym

(1)

Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)

Rhan 1;

(b)

adrannau 37, 82, 117 a 171;

(c)

y Rhan hon.

(2)

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar unrhyw ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)

Caiff gorchymyn o dan yr adran hon bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.