xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10LL+CDARPARIAETHAU TERFYNOL

191Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill i ACCLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn [F1Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt,] yn ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i berson [F2ddychwelyd ffurflen dreth neu] roi hysbysiad neu ddogfen arall i ACC (pa un a ddefnyddir yr ymadrodd “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall) (ond gweler is-adran (4)).

[F3(2)Rhaid i’r ffurflen dreth, yr hysbysiad neu’r ddogfen arall—

(a)bod ar ba bynnag ffurf,

(b)cynnwys pa bynnag wybodaeth,

(c)cynnwys gydag ef neu hi ba bynnag ddogfennau eraill, a

(d)cael ei roi neu ei rhoi ym mha bynnag fodd,

a bennir gan ACC.]

(3)Ond mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth wahanol a wneir yn [F4Neddfau Trethi Cymru neu oddi tanynt] .

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw ddogfen a roddir i ACC gan Weinidogion Cymru neu’r tribiwnlys.