RHAN 10DARPARIAETHAU TERFYNOL

191Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill i ACC

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn F1Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt, yn ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i berson F2ddychwelyd ffurflen dreth neu roi hysbysiad neu ddogfen arall i ACC (pa un a ddefnyddir yr ymadrodd “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall) (ond gweler is-adran (4)).

F3(2)

Rhaid i’r ffurflen dreth, yr hysbysiad neu’r ddogfen arall—

(a)

bod ar ba bynnag ffurf,

(b)

cynnwys pa bynnag wybodaeth,

(c)

cynnwys gydag ef neu hi ba bynnag ddogfennau eraill, a

(d)

cael ei roi neu ei rhoi ym mha bynnag fodd,

a bennir gan ACC.

(3)

Ond mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth wahanol a wneir yn F4Neddfau Trethi Cymru neu oddi tanynt .

(4)

Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw ddogfen a roddir i ACC gan Weinidogion Cymru neu’r tribiwnlys.