RHAN 10DARPARIAETHAU TERFYNOL
191Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill i ACC
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon neu mewn rheoliadau a wneir oddi tani yn ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i berson roi hysbysiad neu ddogfen arall i ACC (pa un a ddefnyddir yr ymadrodd “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall) (ond gweler is-adran (4)).
(2)
Rhaid i’r ddogfen—
(a)
bod ar ba bynnag ffurf,
(b)
cynnwys pa bynnag wybodaeth, ac
(c)
cael ei rhoi ym mha bynnag fodd,
a bennir gan ACC.
(3)
Ond mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth wahanol a wneir yn y Ddeddf hon neu oddi tani.
(4)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw ddogfen a roddir i ACC gan Weinidogion Cymru neu’r tribiwnlys.