RHAN 10DARPARIAETHAU TERFYNOL

190Dyroddi hysbysiadau gan ACC

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn F1Neddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00), yn F2Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt, yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad i berson (pa un a ddefnyddir yr ymadrodd “dyroddi” neu unrhyw ymadrodd arall) (ond gweler is-adran (9)).

F3(1A)

Rhaid i hysbysiad bennu’r dyddiad y’i dyroddir.

(1B)

Os na all y person y dyroddir yr hysbysiad iddo ganfod yn rhesymol effaith yr hysbysiad oherwydd camgymeriad ynddo neu hepgoriad ohono (gan gynnwys camgymeriad neu hepgoriad sy’n ymwneud ag enw’r person), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei ddyroddi.

(2)

Caniateir dyroddi’r hysbysiad i’r person—

(a)

drwy ei ddanfon yn bersonol i’r person,

(b)

drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)

drwy ei anfon drwy’r post i gyfeiriad priodol y person, neu

(d)

pan fo is-adran (3) yn gymwys, drwy ei anfon yn electronig i gyfeiriad a ddarparwyd at y diben hwnnw.

(3)

Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person y mae’r hysbysiad i’w ddyroddi iddo wedi cytuno mewn ysgrifen iddo gael ei anfon yn electronig.

(4)

At ddibenion is-adran (2)(a), caniateir danfon hysbysiad yn bersonol i gorff corfforaethol drwy ei roi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.

(5)

Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(b), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn ar yr adeg y’i gadawyd yng nghyfeiriad priodol y person oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(6)

At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—

(a)

yn achos corff corfforaethol, F4naill ai—

(i)

cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r F5corff, neu

(ii)

pan fo’r ffurflen dreth ddiweddaraf a ddychwelwyd gan y corff i ACC yn cynnwys cyfeiriad yr honnir ei fod yn gyfeiriad y corff, y cyfeiriad hwnnw;

(b)

yn achos person sy’n gweithredu yn rhinwedd partner mewn partneriaeth, F6naill ai—

(i)

cyfeiriad prif swyddfa’r F7bartneriaeth, neu

(ii)

pan fo’r ffurflen dreth ddiweddaraf a ddychwelwyd gan y bartneriaeth i ACC yn cynnwys cyfeiriad yr honnir ei fod yn gyfeiriad y bartneriaeth, y cyfeiriad hwnnw;

(c)

mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.

(7)

Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(c) drwy ei anfon i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(8)

Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(d), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(9)

Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw hysbysiad y gall ACC

(a)

ei ddarparu i berson o dan adran 103(4) neu 105(3) F8(gan gynnwys unrhyw hysbysiad a roddir o dan adran 103(4) fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5)) , neu

(b)

ei roi i’r tribiwnlys.

(10)

Yn yr adran hon mae “hysbysiad” yn cynnwys copi o hysbysiad.