RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Gwybodaeth

19Datganiad ynghylch cyfrinachedd

(1)

Rhaid i bob unigolyn sy’n swyddog perthnasol wneud datganiad sy’n cydnabod y rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd o dan adran 17.

(2)

Rhaid gwneud datganiad—

(a)

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penodi’r unigolyn, a

(b)

mewn unrhyw ffurf a modd a bennir gan ACC.

(3)

At ddibenion is-adran (2)(a)—

(a)

nid yw adnewyddu penodiad cyfnod sefydlog i’w drin fel penodiad,

(b)

mae unigolyn sydd o fewn adran 17(2)(e) i’w drin fel pe bai wedi ei benodi pan fo’r unigolyn yn darparu’r gwasanaethau a grybwyllir yno gyntaf, ac

(c)

os penodwyd unigolyn sydd o fewn adran 17(2)(b), (d) neu (f) (neu os trinnir yr unigolyn fel pe bai wedi ei benodi) cyn dirprwyo’r swyddogaethau o dan sylw, mae’r unigolyn i’w drin fel pe bai’n ofynnol iddo wneud y datganiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dirprwyo’r swyddogaethau.