RHAN 10DARPARIAETHAU TERFYNOL

188Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol neu atodol sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion y Ddeddf hon, neu mewn cysylltiad â hi.

(2)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, ddirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).