xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)ar apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, y tribiwnlys yn dyfarnu
[F2(i)]bod ACC i ad-dalu swm o dreth ddatganoledig a dalwyd gan berson, [F3neu
(ii)bod swm a dalwyd gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth i’w ad-dalu gan ACC,]
(b)ACC yn gwneud cais o dan adran 11(4) neu 13(4) o DTLlG am ganiatâd i wneud apêl bellach.
(2)Wrth wneud cais am ganiatâd caiff ACC ofyn am ganiatâd y tribiwnlys i ohirio ad-dalu’r swm hyd—
(a)y dyfernir ar yr apêl bellach, neu
(b)y mae ACC yn cael sicrhad digonol ar gyfer y swm.
(3)Rhaid i’r tribiwnlys neu’r llys perthnasol ganiatáu cais ACC—
(a)os yw’n rhoi caniatâd i’r apêl bellach gael ei chynnal, a
(b)os yw’n credu bod angen caniatáu’r cais er mwyn diogelu’r refeniw.
(4)Os na roddir caniatâd i wneud apêl bellach—
(a)gan Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn dilyn cais o dan adran 11(4)(a) o DTLlG, neu
(b)gan yr Uwch Dribiwnlys yn dilyn cais o dan adran 13(4)(a) o’r Ddeddf honno,
nid yw’r ffaith fod ACC wedi gwneud cais o dan is-adran (2) wrth wneud y cais am ganiatâd yn rhwystro ACC rhag gwneud cais arall o dan yr is-adran honno os yw ACC yn gwneud cais am ganiatâd i wneud apêl bellach o dan adran 11(4)(b) neu 13(4)(b) o DTLlG.
(5)Ond fel arall, mae penderfyniad y tribiwnlys neu’r llys perthnasol ynglŷn â chais o dan adran (2) yn derfynol.
(6)Yn yr adran hon—
ystyr “tribiwnlys neu lys perthnasol” (“relevant tribunal or court”) yw pa un bynnag o’r canlynol y mae ACC yn gwneud cais iddo am ganiatâd i wneud apêl bellach—
Tribiwnlys yr Haen Gyntaf;
yr Uwch Dribiwnlys;
y llys apeliadol perthnasol;
ystyr “llys apeliadol perthnasol” (“relevant appellate court”) yw’r llys a bennir felly o dan adran 13(11) o DTLlG.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 183A wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 65; O.S. 2018/34, ergl. 3
F2Geiriau yn a. 183A(1)(a) wedi ei ailrifo fel a. 183A(1)(a)(i) (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 46(a)
F3A. 183A(1)(a)(ii) ac gair wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 46(b)