RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU
PENNOD 4AMRYWIOL AC ATODOL
Canlyniadau adolygiadau ac apelau
F1183AAtal ad-daliad pan fo apêl bellach yn yr arfaeth
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)
ar apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, y tribiwnlys yn dyfarnu
(ii)
bod swm a dalwyd gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth i’w ad-dalu gan ACC,
(b)
ACC yn gwneud cais o dan adran 11(4) neu 13(4) o DTLlG am ganiatâd i wneud apêl bellach.
(2)
Wrth wneud cais am ganiatâd caiff ACC ofyn am ganiatâd y tribiwnlys i ohirio ad-dalu’r swm hyd—
(a)
y dyfernir ar yr apêl bellach, neu
(b)
y mae ACC yn cael sicrhad digonol ar gyfer y swm.
(3)
Rhaid i’r tribiwnlys neu’r llys perthnasol ganiatáu cais ACC—
(a)
os yw’n rhoi caniatâd i’r apêl bellach gael ei chynnal, a
(b)
os yw’n credu bod angen caniatáu’r cais er mwyn diogelu’r refeniw.
(4)
Os na roddir caniatâd i wneud apêl bellach—
(a)
gan Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn dilyn cais o dan adran 11(4)(a) o DTLlG, neu
(b)
gan yr Uwch Dribiwnlys yn dilyn cais o dan adran 13(4)(a) o’r Ddeddf honno,
nid yw’r ffaith fod ACC wedi gwneud cais o dan is-adran (2) wrth wneud y cais am ganiatâd yn rhwystro ACC rhag gwneud cais arall o dan yr is-adran honno os yw ACC yn gwneud cais am ganiatâd i wneud apêl bellach o dan adran 11(4)(b) neu 13(4)(b) o DTLlG.
(5)
Ond fel arall, mae penderfyniad y tribiwnlys neu’r llys perthnasol ynglŷn â chais o dan adran (2) yn derfynol.
(6)
Yn yr adran hon—
ystyr “tribiwnlys neu lys perthnasol” (“relevant tribunal or court”) yw pa un bynnag o’r canlynol y mae ACC yn gwneud cais iddo am ganiatâd i wneud apêl bellach—
(a)
Tribiwnlys yr Haen Gyntaf;
(b)
yr Uwch Dribiwnlys;
(c)
y llys apeliadol perthnasol;
ystyr “llys apeliadol perthnasol” (“relevant appellate court”) yw’r llys a bennir felly o dan adran 13(11) o DTLlG.