RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU
PENNOD 4AMRYWIOL AC ATODOL
Canlyniadau adolygiadau ac apelau
182Talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i benderfyniad sy’n ymwneud â chosb y gallai person fod yn agored iddi.
(2)
Pan fo ACC yn cynnal adolygiad mewn cysylltiad â’r penderfyniad, nid yw adran 154 yn gymwys i unrhyw swm o gosb y mae anghydfod yn ei gylch (“swm y mae anghydfod yn ei gylch”).
(3)
Pan fo’r adolygiad yn dod i’r casgliad bod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person o dan adran 176(5) neu (7) mewn perthynas â’r adolygiad; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (4).
(4)
Pan fo’r person yn gwneud apêl mewn cysylltiad â’r penderfyniad—
(a)
nid yw adran 154 yn gymwys i unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, a
(b)
nid yw is-adran (3) yn gymwys.
(5)
Pan fo’r apêl yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r person dalu—
(a)
unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, os nad yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, neu
(b)
os yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch y daeth yr adolygiad i’r casgliad ei fod yn daladwy,
cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod tynnu’n ôl.
(6)
Pan ddyfernir yn derfynol, o ganlyniad i’r apêl, fod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.