Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

182Talu cosbau yn achos adolygiad neu apêlLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i benderfyniad sy’n ymwneud â chosb y gallai person fod yn agored iddi.

(2)Pan fo ACC yn cynnal adolygiad mewn cysylltiad â’r penderfyniad, nid yw adran 154 yn gymwys i unrhyw swm o gosb y mae anghydfod yn ei gylch (“swm y mae anghydfod yn ei gylch”).

(3)Pan fo’r adolygiad yn dod i’r casgliad bod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person o dan adran 176(5) [F1, (6)] neu (7) mewn perthynas â’r adolygiad; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (4).

(4)Pan fo’r person yn gwneud apêl mewn cysylltiad â’r penderfyniad—

(a)nid yw adran 154 yn gymwys i unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, a

(b)nid yw is-adran (3) yn gymwys.

(5)Pan fo’r apêl yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r person dalu—

(a)unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch, os nad yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, neu

(b)os yw’r penderfyniad wedi ei adolygu, unrhyw swm y mae anghydfod yn ei gylch y daeth yr adolygiad i’r casgliad ei fod yn daladwy,

cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod tynnu’n ôl.

(6)Pan ddyfernir yn derfynol, o ganlyniad i’r apêl, fod swm y mae anghydfod yn ei gylch yn daladwy, rhaid i’r person dalu’r swm hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyfernir yn derfynol ar yr apêl.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 182 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)