xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CADOLYGIADAU AC APELAU

[F1PENNOD 3ALL+CTALU AC ADENNILL TRETH DDATGANOLEDIG [F2ETC] SY’N DESTUN ADOLYGIAD NEU APÊL

181GEffaith gohirioLL+C

(1)Ni chaiff ACC gymryd unrhyw gamau i adennill swm gohiriedig yn ystod y cyfnod gohirio.

(2)Ystyr swm gohiriedig yw—

(a)swm o dreth ddatganoledig a bennir mewn cais i ohirio (oni bai bod y cais yn gais hwyr a wneir yn unol ag adran 181C(2) neu (4) neu adran 181D), neu

(b)swm o dreth ddatganoledig y mae ACC neu’r tribiwnlys yn caniatáu cais i ohirio mewn cysylltiad ag ef.

(3)Yn achos swm gohiriedig sydd o fewn is-adran (2)(a), mae’r cyfnod gohirio ar gyfer y swm—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y gwneir y cais i ohirio, a

(b)yn dod i ben—

(i)os caniateir y cais, â’r diwrnod y’i caniateir,

(ii)os na chaniateir y cais ac os na wneir cais i’r tribiwnlys am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer gwneud cais o’r fath, neu

(iii)os na chaniateir y cais ac y gwneir cais i’r tribiwnlys am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod y mae’r tribiwnlys yn gwneud ei ddyfarniad.

(4)Yn achos swm gohiriedig sydd o fewn is-adran (2)(b) mae’r cyfnod gohirio ar gyfer y swm—

(a)yn dechrau â’r dyddiad y mae ACC neu’r tribiwnlys yn caniatau’r cais i ohirio, a

(b)yn dod i ben—

(i)os gwnaed y cais i ohirio mewn cysylltiad ag adolygiad o benderfyniad apeliadwy, â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad o gasgliadau’r adolygiad, neu

(ii)os gwnaed y cais i ohirio mewn cysylltiad ag apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy, â’r diwrnod y mae’r tribiwnlys yn dyfarnu’r apêl.

(5)Pan gaiff swm gohiriedig sydd o fewn is-adran (2)(b) ei amrywio o dan adran 181F, mae’r swm a amrywiwyd i’w drin fel y swm gohiriedig o ddyddiad yr amrywiad.

(6)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at ganiatáu cais i ohirio yn cynnwys achosion pan gaiff y cais ei ganiatáu’n rhannol.]