[F1181FAmrywio ar ôl caniatáu cais i ohirioLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)ACC neu’r tribiwnlys wedi caniatáu cais i ohirio,
(b)newid mewn amgylchiadau wedi hynny, ac
(c)o ganlyniad i’r newid hwnnw, naill ai ACC neu’r person a wnaeth y cais yn credu—
(i)y dylid amrywio’r swm o dreth ddatganoledig y caniatawyd y cais mewn cysylltiad ef;
(ii)pan fo caniatáu’r cais yn amodol ar ddarparu sicrhad digonol, y dylid amrywio’r amod.
(2)Caiff y naill barti neu’r llall geisio cytundeb ei gilydd drwy ddyroddi hysbysiad sy’n pennu’r amrywiad arfaethedig i’r parti arall.
(3)Os ceir cytundeb, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad sy’n cadarnhau’r amrywiad i’r person.
(4)Mae’r amrywiad yn cael effaith o’r dyddiad y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad o dan is-adran (3).
(5)Os na cheir cytundeb o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad o dan is-adran (2), caiff y naill barti neu’r llall wneud cais i’r tribiwnlys am ddyfarniad.
(6)Caiff y tribiwnlys ddyfarnu ar gais o’r fath drwy—
(a)cadarnhau’r amrywiad arfaethedig,
(b)gwrthod yr amrywiad arfaethedig, neu
(c)gwneud unrhyw amrywiad arall sy’n briodol ym marn y tribiwnlys.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 8 Pnd. 3A wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 63; O.S. 2018/34, ergl. 3