RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU
F1PENNOD 3ATALU AC ADENNILL TRETH DDATGANOLEDIG ETC SY’N DESTUN ADOLYGIAD NEU APÊL
181FAmrywio ar ôl caniatáu cais i ohirio
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)
ACC neu’r tribiwnlys wedi caniatáu cais i ohirio,
(b)
newid mewn amgylchiadau wedi hynny, ac
(c)
o ganlyniad i’r newid hwnnw, naill ai ACC neu’r person a wnaeth y cais yn credu—
(i)
y dylid amrywio’r swm o dreth ddatganoledig y caniatawyd y cais mewn cysylltiad ef;
(ii)
pan fo caniatáu’r cais yn amodol ar ddarparu sicrhad digonol, y dylid amrywio’r amod.
(2)
Caiff y naill barti neu’r llall geisio cytundeb ei gilydd drwy ddyroddi hysbysiad sy’n pennu’r amrywiad arfaethedig i’r parti arall.
(3)
Os ceir cytundeb, rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad sy’n cadarnhau’r amrywiad i’r person.
(4)
Mae’r amrywiad yn cael effaith o’r dyddiad y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad o dan is-adran (3).
(5)
Os na cheir cytundeb o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad o dan is-adran (2), caiff y naill barti neu’r llall wneud cais i’r tribiwnlys am ddyfarniad.
(6)
Caiff y tribiwnlys ddyfarnu ar gais o’r fath drwy—
(a)
cadarnhau’r amrywiad arfaethedig,
(b)
gwrthod yr amrywiad arfaethedig, neu
(c)
gwneud unrhyw amrywiad arall sy’n briodol ym marn y tribiwnlys.