[F1181ECais am adolygiad tribiwnlys o benderfyniad ar gais i ohirioLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff person sy’n gwneud cais i ohirio, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad o’i benderfyniad ynglŷn â’r cais, wneud cais i’r tribiwnlys am adolygiad o benderfyniad ACC.
(2)Caiff y tribiwnlys ddyfarnu bod penderfyniad ACC—
(a)i’w gadarnhau,
(b)i’w ganslo, neu
(c)i’w ddisodli â phenderfyniad arall y gallai ACC fod wedi ei wneud.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhn. 8 Pnd. 3A wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 63; O.S. 2018/34, ergl. 3