RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU
F1PENNOD 3ATALU AC ADENNILL TRETH DDATGANOLEDIG ETC SY’N DESTUN ADOLYGIAD NEU APÊL
181BCeisiadau i ohirio
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person—
(a)
yn rhoi hysbysiad am gais i adolygu penderfyniad apeliadwy, neu
(b)
yn gwneud apêl yn erbyn penderfyniad o’r fath.
(2)
Os yw’r person yn credu bod swm gormodol o dreth ddatganoledig wedi ei godi ar y person o ganlyniad i’r penderfyniad, caiff y person wneud cais i ACC ohirio adennill y swm o dreth ddatganoledig y mae’r person yn credu ei fod yn ormodol (a llog ar y swm hwnnw) (“cais i ohirio”).
(3)
Rhaid i gais i ohirio bennu—
(a)
y swm o dreth ddatganoledig y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef, F2...
(b)
y rhesymau pam fod y person sy’n gwneud y cais yn credu bod y swm yn ormodol F3, ac
(c)
pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, y rhesymau pam y mae’r person sy’n gwneud y cais yn credu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person.
(4)
Os yw ACC
F4(a)
yn credu bod gan y person sy’n gwneud y cais i ohirio seiliau rhesymol dros gredu bod y swm o dreth ddatganoledig y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn ormodol, F5 a
(b)
pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person,
caiff ACC ganiatáu’r cais i ohirio.
(5)
Os yw ACC
F6(a)
yn credu mai dim ond mewn perthynas â rhan o’r swm y mae gan y person seiliau rhesymol dros gredu bod y swm yn ormodol, F7neu
(b)
pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol i’r person,
caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.
(6)
Caiff ACC gymeradwyo’r cais i ohirio (yn llwyr neu’n rhannol) yn amodol ar ddarparu sicrhad digonol.
(7)
Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad o’i benderfyniad i’r person a wnaeth y cais i ohirio.