18Datgelu a ganiateirLL+C
(1)Mae’r adran hon yn caniatáu datgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr—
(a)os gwneir hynny gyda chydsyniad pob person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef,
(b)os gwneir hynny er mwyn cael gwasanaethau mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC,
(c)os gwneir hynny at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol neu at ddibenion atal troseddu neu ganfod trosedd,
(d)os gwneir hynny i gorff sydd â chyfrifoldeb am reoleiddio proffesiwn mewn cysylltiad â chamymddwyn ar ran aelod o’r proffesiwn sy’n ymwneud ag un o swyddogaethau ACC,
(e)os gwneir hynny at ddibenion achos sifil,
(f)os gwneir hynny yn unol â gorchymyn llys neu dribiwnlys,
(g)os gwneir hynny yn unol â deddfiad sy’n gwneud ei datgelu yn ofynnol neu’n caniatáu hynny, F1...
(h)os gwneir hynny i ACC neu i berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo ar gyfer ei defnyddio yn unol ag adran 16[F2,]
[F3(i)os gwneir hynny i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, neu
(j)os gwneir hynny i Gyllid yr Alban mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad â chasglu a rheoli treth ddatganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved tax” yn Neddf yr Alban 1998 (p. 46).]
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 18(1) wedi ei hepgor (29.11.2017) yn rhinwedd Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1163), rhlau. 1(2), 2(a)
F2A. 18(1)(h) wedi ei amnewid (29.11.2017) gan Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1163), rhlau. 1(2), 2(b)
F3A. 18(1)(i)(j) wedi ei fewnosod (29.11.2017) gan Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1163), rhlau. 1(2), 2(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 18 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2