RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Gwybodaeth

18Datgelu a ganiateir

(1)

Mae’r adran hon yn caniatáu datgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr—

(a)

os gwneir hynny gyda chydsyniad pob person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef,

(b)

os gwneir hynny er mwyn cael gwasanaethau mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC,

(c)

os gwneir hynny at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol neu at ddibenion atal troseddu neu ganfod trosedd,

(d)

os gwneir hynny i gorff sydd â chyfrifoldeb am reoleiddio proffesiwn mewn cysylltiad â chamymddwyn ar ran aelod o’r proffesiwn sy’n ymwneud ag un o swyddogaethau ACC,

(e)

os gwneir hynny at ddibenion achos sifil,

(f)

os gwneir hynny yn unol â gorchymyn llys neu dribiwnlys,

(g)

os gwneir hynny yn unol â deddfiad sy’n gwneud ei datgelu yn ofynnol neu’n caniatáu hynny, F1...

(h)

os gwneir hynny i ACC neu i berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo ar gyfer ei defnyddio yn unol ag adran 16F2,

F3(i)

os gwneir hynny i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, neu

(j)

os gwneir hynny i Gyllid yr Alban mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad â chasglu a rheoli treth ddatganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved tax” yn Neddf yr Alban 1998 (p. 46).

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau.